Theatr Iolo
Theatr Iolo
Cer I Ffwrdd
In summer 2020, Theatr Iolo ran a competition for children and young people between the ages of 7 and 16 to write an original ten-minute play. The competition was launched at a time when most children and young people were learning from home due to COVID-19 and provided a creative activity for children and young people whilst theatres were closed.
We received entries from many young people and enjoyed reading every single one of them! It was a difficult decision, but we are delighted to announce that the winning plays are The Wakey-Wake-Amatic by Esme (age 10), Home from War by Lauren (age 14), Two Worlds, One Meal by Faaris (age 13) and Cer i Ffwrdd by Rhiana (age 15).
The plays were originally set to be performed at the Sherman Theatre but, as theatres around the country remain closed, the four winning scripts have been recorded as audio plays that can be listened to at home or in schools on the Theatr Iolo podcast channel.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Yn haf 2020, cynhaliodd Theatr Iolo gystadleuaeth i blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 16 oed ysgrifennu drama ddeng munud wreiddiol. Lansiwyd y gystadleuaeth ar adeg pan oedd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn dysgu gartref oherwydd COVID-19 ac yn darparu gweithgaredd creadigol i blant a phobl ifanc tra bod theatrau ar gau.
Cawsom gynigion gan lawer o bobl ifanc a mwynhau darllen pob un ohonynt! Roedd yn benderfyniad anodd, ond rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai'r dramâu buddugol yw The Wakey-Wake-Amatic gan Esme (10 oed), Home from War gan Lauren (14 oed), Two Worlds, One Meal gan Faaris (13 oed) ) a Cer i Ffwrdd gan Rhiana (15 oed).
Yn wreiddiol, gosodwyd y dramâu i gael eu perfformio yn Theatr y Sherman ond, wrth i theatrau ledled y wlad aros ar gau, mae’r pedair sgript fuddugol wedi’u recordio fel dramâu sain y gellir gwrando arnynt gartref neu mewn ysgolion ar sianel podlediad Theatr Iolo.
Mae’r cymeriad ‘Person’ yn dangos y person mae pobl arall yn gweld, ac mae’r cymeriad ‘Ymennydd’ yn dangos y proses meddyliol mae’r person yn mynd trwy.
Weithiau dwi’n teimlo bydd e’n neis i gallu dweud wrth fy ymenydd “cer i ffwrdd”!
Mae person yn eistedd ar sofa, ac mae Ymennydd off llwyfan.
Ymennydd yn cerdded draw at y sofa, yn eistedd lawr, ac wedyn yn shyfflo lan tuag at Person.
YMENNYDD Hei.
PERSON Beth?
YMENNYDD Sut wyt ti?
PERSON Eitha’ hapus actually.
YMENNYDD Na ti ddim.
PERSON Beth?
YMENNYDD Ti ddim.
PERSON Pam?
YMENNYDD Ti jyst ddim. Does dim byd i fod yn hapus am. Dylet ti fod yn miserable.
PERSON …oh.
Person yn pigo lan llyfr ac yn dechrau darllen, Ymennydd yn darllen dros ei ysgwydd
Sirens yn y cefndir, fel o tu allan
Y dau yn edrych i fyny, Person yn edrych nôl ar ôl eiliad, Ymennydd yn aros yn edrych ‘tu allan’
YMENNYDD Mae holl teulu ti ‘di marw.
Person yn edrych i fyny mewn syrpreis
PERSON Beth?!
Ymennydd yn edrych at Person
YMENNYDD Mae nhw ‘di marw.
PERSON Be’ ti’n meddwl?
YMENNYDD Ambiwlans hwna. Nhw gyd ‘di marw mewn car crash.
PERSON Ond, nhw ddim hyd yn oed yn yr ardal??
YMENNYDD O’ nhw ar y ffordd i ddweud bod ffrindiau ti gyd newydd marw.
Person yn dechrau panico
PERSON Ond-
YMENNYDD Mae pawb ‘di marw.
PERSON Oh my gosh, mae pawb ‘di marw.
YMENNYDD Yep.
PERSON Nes i erioed dweud bod fi’n caru nhw?
YMENNYDD Siwr o fod ddim.
Person yn panico llawer, wedyn ar ôl moment yn tynnu ffôn allan o poced nhw ac yn edrych ar y sgrîn ac yn stopio panico
PERSON Mam newydd tecsto fi.
YMENNYDD O, nhw heb marw te. Oops!
Ymennydd yn chwerthin
PERSON Nei di jyst gad fi fod?
YMENNYDD Mmm… na.
Person yn troi i ffwrdd ac yn rhoi clustffonau mewn
YMENNYDD Be’ ti’n neud?
PERSON Meditation. Nawr, bydd yn dawel.
Person yn gwasgu botwm ar y ffôn ac yn cau ei llygaid, ac yn dechrau anadlu’n dwfn
Ar ôl un anadl, mae Ymennydd yn dechrau gwaeddu yn clust Person Person yn trio anwybyddu Ymennydd ac yn cario ymlaen neud y meditation
Person yn rhoi lan ar ôl ychydig ac yn tynnu allan y clustffonau
PERSON Fine. Sai mynd i eistedd fan hyn trwy’r dydd. Ni’n mynd am dro.
YMENNYDD Na. So ti gallu mynd tu allan. Beth os mae na escaped bear neu rhywbeth.
PERSON Escaped bear? O ble?!
YMENNYDD Y sŵ.
PERSON Y sŵ?? Pa sŵ? Does dim sŵ unrhywle fan hyn.
YMENNYDD Ie, ond, mae eirth gallu rhedeg 50 troedfedd yr eiliad.
PERSON Ie ond… sut ti’n gwbod hwna?
YMENNYDD Erthygl nes i ddarllen tri blwyddyn yn ôl.
PERSON Ond, ti ddim yn cofio dyddiadau penblwydd ffrindiau?
YMENNYDD Wel, fi yn cofio nhw, jyst dim reit nawr. Y pwynt yw, gall arth dal dod a bwyta ti. Neu llew, neu teig-
PERSON Na. Sai’n gwrando. Ni’n mynd allan nawr.
Y dau yn sefyll ac yn cerdded i’r ochr
Person yn cloi y drws
PERSON Reit. Fi ‘di cloi’r drws.
YMENNYDD Ie.
Y dau yn dechrau cerdded ar draws y llwyfan
(Tra’n cerdded)
YMENNYDD Ti heb cloi’r drws.
PERSON Beth?
YMENNYDD Ti heb cloi’r drws.
PERSON Fi’n eithaf siwr wnes i…
Ymennydd yn dal braich Person an yn llusgo nhw nôl i’r ochr yn ailadrodd bod y drws heb cael ei gloi
PERSON Gweld. Wnes i gloi’r drws.
YMENNYDD O ie.
Y dau yn cerdded ar draws y llwyfan eto
YMENNYDD Ti heb cloi’r drws.
Person yn gwaeddu mewn exasperation ac yn cerdded nôl, gyda Ymennydd yn dilyn.
PERSON Edrych! Mae’r drws ‘di cloi! Ti’n gwbod beth, dim ots. Wnawn ni jyst aros mewn.
Y dau yn cerdded nôl i’r soffa
Person yn eistedd ar y soffa, Ymennydd yn gorwedd ar y llawr ac yn syllu mewn i’r gofod
PERSON Ti gallu troi’r peiriant golchi ar?
YMENNYDD Iawn.
Ymennydd ddim yn symud
PERSON Nawr, plîs?
YMENNYDD Ie.
PERSON Ti ddim yn symud.
YMENNYDD Wna’i neud e nawr.
PERSON Ti gallu sefyll lan a neud e te?
YMENNYDD Ie, fi’n neud e nawr, onest.
PERSON Ond, ti dal ddim yn symud.
YMENNYDD Mmm.
Person yn tynnu ffôn nhw allan
PERSON Mae’r marched ‘di gofyn os fi ishe mynd allan heno.
YMENNYDD Na, ti ddim gallu mynd.
PERSON Pam?
YMENNYDD Gall gymaint o bethau gwael digwydd.
PERSON Wel, be’ fi fod dweud i nhw te?
YMENNYDD Pen tost?
PERSON Sa’i gallu jyst dweud celwydd.
Ymennydd yn taro Person yn y pen
PERSON OW!!
YMENNYDD Ti ddim gallu mynd.
PERSON Ond sa’i ‘di gadael y tŷ am wythnos.
YMENNYDD Felly bydd un dydd ddim yn neud gwahaniaeth.
PERSON …Digon teg. Reit. Fi ‘di cael digon o ti heddiw. Dwi angen cysgu, felly gad fi fod. Iawn?
YMENNYDD Iawn.
Person yn gorwedd lawr ar y sofa. Ar ôl cwpl o eiliadau o dawelwch, Ymennydd yn mynd lan at clust Person ac yn gwaeddu
Person yn eistedd lan ac yn ‘sigh-o’
Y DIWEDD